CAW143 Unigolyn

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Unigolyn

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Yn rhannol

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Yn credu bod angen gwelliannau amlwg i’r Cwriciwlwm presennol

Ar hyn o bryd mae cwriciwlwm Hanes yn canolbwyntio yn ormodol ar yr Almaen ac America a phrin dim son am Hanes Cymru.

Os am gynnwys America beth am gyfraniad helaeth Cymru i’r Cyfandir hwnnw. Mae angen cael cwriciwlwm sy’n cynnwys astudiaeth o bobl fel Arglwydd Penrhyn a’r Crawshays yn nghyd destun caethwasiaeth a datblygiad diwydiannol a’u triniaeth o bobl. Mae angen trafod rhyfeloedd byd ond dylid cynnwys y 2 ryfel byd gyda’i gilydd ynghyd a dirwasgiad rhyngddynt fel un uned er mwyn deall y cyddestun a rhan Lloyd George yn hynny. Dylid cynnwys hanes Tywysogion a chestyll yn ycwriciwlwm hefyd

Yn Saesneg llen prin yw’r son am awduron Cymreig gyda’r pwyslais ar Awduron Americanaidd

Mewn Ysgolion Cymraeg nid oes angen dysgu Saesneg tan flwyddyn 3. Fel cyn athro Cynradd ni chefais eriod blentyn nad oedd yn rhugl erbyn 7 er na chawsant wers Saesneg erioed. Roedd safon y plant erbyn Blwyddyn 6 wastad cystal os nad uwch na’r ysgolion lle’r oedd disgyblion i bob pwrpas yn uniaith Saesneg.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Gweithredu sydd angen, mae gormod o oediwedi bod yn barod. Rwy’n cofio y cwriciwlwm Cenedlaethol cyntaf daflwyd atom. Roedd yn or feichus, ac yn niweidiol mewn nifer o ffyrdd ond fe wnaethom ymdopi

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae angen hyfforddi athrawon i ddysgu Cymraeg yn arbennig mewn ysgolion Cynradd yn arbennig. Yn Y Gog ddwyrain nifer o fyyrwyr dysgu yn mynd i golegau Lloegr megis Caer acyn cael swyddi yng Nghymru

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nac ydw

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Creu anawsterau i blant o gartrefi Saesneg gael eutrochi yn y Gymraeg

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-